Adroddiad Eisteddfod 2016

Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 2016

Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 5ed gyda’r cystadlu yn frwd ac yn niferus yn gyffredinol drwy’r dydd.  Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd – J Eirian Jones, Cwmann; Llefaru – Dyfrig Davies, Llandeilo; Llên – Mari George, Pen-y-bont ar Ogwr; Celf – Gareth Morgan, Cwmffrwd.

Bu Geraint Rees, Idole yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol a Jonathan Morgan, Y Tymbl ar gyfer y cystadlaethau agored.

Llywyddion yr eisteddfod eleni oedd Mr. Keith Beynon, Gelli Deg, Llandyfaelog yn y prynhawn a Mr. Eifion Jones, Cilfeithy Uchaf, Glan-y-fferi yn yr hwyr.  Cafwyd anerchiad a chyfraniad gwerthfawr gan y ddau lywydd ill dau â chysylltiad agos iawn gyda bro’r eisteddfod a’i gweithgareddau.

Enillwyd Cadair yr Eisteddfod gan Geraint Morgan, Penlle’rgaer, Abertawe gyda chywydd ar y testun “Y Cwm”.  Dyma’r ail dro i Geraint ennill cadair Llandyfaelog, enillodd yr un gyntaf yn 2010.  Roedd cystadleuaeth y gadair yn un safonol a niferus iawn o ran ymgeiswyr ac fe blesiwyd y beirniad yn fawr iawn.  Yr oedd y gadair hardd yn rhoddedig gan Geraint Rees, Caeralaw.  Enillwyd Tlws yr Ifanc gan Greta Llŷr, Llandeilo.  Roedd y tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan Huw John, Peniel.

Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Fflur Richards, Llandyfaelog am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf.  Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees (cerddoriaeth a llefaru) i’r cystadleuydd gorau yn lleol o dan 16 oed i Luke Rees, Pontantwn.  Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Llangynnwr.  Cyflwynwyd cwpan her am lwyfannu eitem gan fudiadau lleol i Glwb Ffermwyr Ifanc San Ishmael.

Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod.  Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.

CERDD (lleol)

Unawd Bl. 1 a 2 – 1. Elliw Williams, 2. Lucy Bennet, 3. Poppy Brian James
Unawd Bl. 3 a 4 – 1. Cari Gibbon, 2. Llewelyn Owen, 3. Elisha Thomas
Unawd Bl. 5 a 6 – 1. Fflur Richards
Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd – 1. Fflur Richards, 2. Harry Gibbon
Grŵp offerynnol – 1. Ysgol y Fro
Parti unsain dan 16 – 1. Ysgol Llangynnwr A, 2. Ysgol Y Fro, 3. Ysgol Llangynnwr B
Unawd Bl. 7 – 11 – Luke Rees, 2. Ellen Williams, 3. Ifan Knott ac Iwan Thomas (cydradd)

LLEFARU (lleol)

Llefaru Bl. 1 a 2 – 1. Dewi Williams
Llefaru Bl. 5 a 6 – 1. Fflur Richards, 2. Talen Mudaly
Llefaru Bl. 7 – 11 – 1. Luke Rees, 2. Nia Thomas, 3. Ifan Knott.

CELF (lleol)

Blwyddyn 1 a 2 – 1. Rhys Welsby, Ysgol y Fro, 2 – Dewi Williams, Ysgol y Fro, 3 – Louisha Macaree, Ysgol Mynyddygarreg
Blwyddyn 3 a 4 – 1. Ceira Carter, Ysgol Mynyddygarreg
Blwyddyn 5 a 6 – 1. Precious Morgan, Ysgol Mynyddygarreg;
Llawysgrifen Blwyddyn 7 – 11 – 1. Siriol Gwawr Howells, New Inn, 2 – Iwan Thomas, Llandyfaelog, 3. Nia Thomas, Llandyfaelog.

CERDD (agored)

Unawd Bl. 1 a 2 neu iau – Fflur McConnoll
Unawd Bl. 3 a 4 – Ifan Williams
Unawd Bl. 5 a 6 – Betsan Gwawr Lewis
Unawd Bl. 7, 8 a 9 – Cara Walters
Unawd Bl. 10 ac o dan 19 oed – Luke Rees
Unawd Alaw Werin dan 19 – Luke Rees
Unawd offerynnol dan 19 – Luke Rees
Unawd dan 30 – Luke Rees
Emyn dan 50 – Arwel Evans
Emyn dros 50 – Geraint Rees
Cenwch i’m yr Hen Ganiadau – Arwel Evans
Her Unawd dros 17 – Arwel Evans.

LLEFARU (agored)

Llefaru Bl. 1 a 2 neu iau – Megan Fflur Morgan
Llefaru Bl. 3 a 4 – Elin Williams
Llefaru Bl. 5 a 6 – Elen Morgan
Llefaru Bl. 7, 8 a 9 – Megan Fflur Bryer
Darllen Darn o’r Ysgrythur, dros 19 – Maria Evans
Her adroddiad dan 30 – Luke Rees
Her Adroddiad – Maria Evans.

LLENYDDIAETH

Y Gadair – Geraint Morgan, Penlle’rgaer, Abertawe
Tlws yr Ifanc – Greta Llŷr, Llandeilo
Englyn – Iolo Jones, Pontgarreg
Gorffen Limrig – Megan Richards, Aberaeron.

Ceir lluniau o Eisteddfod 2016 yn yr adran lluniau.