Swper Eisteddfod 2018
Cynhaliwyd swper arbennig yn Y Llew Coch, Llandyfaelog ar Hydref 22ain i godi arian tuag at Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 2018. Codwyd swm sylweddol o arian tuag at yr eisteddfod a diolchwyd i Sarah Withers a’r tîm yn Y Llew Coch am noddi’r noson ac i aelodau’r pwyllgor a chefnogwyr yr eisteddfod am eu cyfraniad hwy at noson lwyddiannus.
Y gŵr gwâdd eleni oedd Colin Evans o Bancyfelin ond un a aned ac a fagwyd ym mro’r eisteddfod. Cyflwynodd hanes ddifyr o’i fagwraeth yng Nghroes-y-ceiliog a’i brysurdeb gyda’r Mudiad Ffermwyr Ifanc a Chapel Penygraig. Soniodd hefyd am ei ddiddordeb a’i lwyddiant gyda magu gwartheg llaeth ac fel Cadeirydd Sioe Laeth Cymru.
Yn ystod y noson cyflwynwyd cadair yr Eisteddfod ar ran Capel Tabor Llansaint gan Bethan a Hywel Gibbon a Thlws yr Ifanc gan Huw John. Hefyd cyflwynwyd tystysgrif Cymdeithas Eisteddfodau Cymru i Eirwen Jones am ei chyfraniad fel gwirfoddolwr at Eisteddfod Llandyfaelog dros gyfnod hir, gwobr a gyflwynwyd iddi yn wreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym mis Awst.
Yn y lluniau fe welir Eirwen Jones yn derbyn ei thystysgrif wrth Geraint Roberts, Ysgrifennydd yr Eisteddfod ac yn yr ail lun fe welir Colin Evans gyda’r Ysgrifennydd.
Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 2018 ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 1af yn Neuadd y Pentref gyda’r cystadlu yn yr adran leol yn cychwyn am 1 o’r gloch a’r cystadlaethau agored am 3.30 a 6 o’r gloch. Y dyddiad cau ar gyfer y cyfansoddiadau llên yw Tachwedd 22ain. Mae rhaglen yr eisteddfod ar wefan yr Eisteddfod, sef www.eisteddfodllandyfaelog.cymru ac ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, sef steddfota.org. Am wybodaeth bellach cysyllter gyda’r Ysgrifenyddion ar 07814701079.