Adroddiad Eisteddfod 2022

Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 2022

Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 3ydd wedi bwlch o ddwy flynedd. Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd – Helen Wyn, Brynaman; Llefaru – Bronwen Morgan, Llangeitho; Llên – Eurig Salisbury, Aberystwyth; Celf – Gareth Morgan, Cwmffrwd.

Bu Geraint Rees, Idole a Jonathan Morgan, Y Tymbl yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol gyda Jonathan ar gyfer y cystadlaethau agored.

Llywydd prynhawn yr eisteddfod eleni oedd Glenys Lewis, Nant-llan, Llandyfaelog, un sy’n wraig gefnogol i’w bro a’r  diweddar Gynghorydd Mair Stephens oedd wedi ei dewis yn Llywydd yr hwyr. Gan i Mair farw yn Ionawr eleni, cyflwynodd Rhiannon Roberts, cadeirydd y pwyllgor, deyrnged iddi yn nodi ei chyfraniad i’w chymuned a’i sir.

Enillwyd Cadair yr Eisteddfod gan Terwyn Tomos, Llandudoch gyda cherdd ar y testun “Môr”. Yr oedd y gadair hardd yn rhoddedig gan Graham a Shân Rees a’r teulu, Cartref, Llandyfaelog. Enillwyd Tlws yr Ifanc gan Gruffudd ab Owain, Y Bala. Roedd y tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan Huw John, Peniel.

Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Ioan Jones, Ysgol Gwenllian am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf. Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees i’r cystadleuydd gorau yn lleol o dan 16 oed i Harri Jones, Ysgol Bro Myrddin (cerddoriaeth) ac i Ioan Jones, Ysgol Gwenllian (llefaru).  Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Llangynnwr.

Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod.  Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.

CERDD (lleol)

Unawd Bl. 1 a 2 – 1. Alaw Fflur Evans, 2. Beca Eluned Davies, 3. Nellie Williams Holder; Unawd Bl. 3 a 4 – 1. Gwenllian Francis Jones, 2. Alis Gibbard, 3. Idris Gwyn; Unawd Bl. 5 a 6 – 1. Ioan Jones, 2. Beca Morris; Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd – 1. Beca Morris, 2. Lewys Owen; Parti unsain dan 16 – 1. Ysgol Llangynnwr, Parti 2, 2. Ysgol Llangynnwr, Parti 3, 3. Ysgol Llangynnwr, Parti 1; Unawd Bl. 7-11 – 1. Harri Jones, 2. Hâf Jones.

LLEFARU (lleol)                                                           

Llefaru Bl. 1 a 2 – 1. Alaw Fflur Evans, 2. Beca Eluned Davies, 3. Greta Marged Wyn; Llefaru Bl. 3 a 4 – 1. Alys Evans, 2. Alis Gibbard, 3. Isabel Hughes; Llefaru Bl. 5 a 6 – 1. Ioan Jones, 2. Beca Morris.

CELF A THECHNOLEG (lleol)

Celf dan 5 oed – 1. Clara, Ysgol Y Fro, 2. Heidi Davies, Ysgol Mynydd-y-garreg, 3. Miriam Haf Wyn, Ysgol Llangynnwr. Celf Blwyddyn 1 a 2 – 1. Greta Marged Wyn, Ysgol Llangynnwr, 2. – Maise Williams, Ysgol Llangynnwr, 3. Dylan Labacik, Ysgol Mynydd-y-garreg. Celf Blwyddyn 3 a 4 – 1. Khaleesi, Ysgol Llangynnwr, 2. – Arya, Ysgol Llangynnwr, 3. – Scarlett May Leevis, Ysgol Llangynnwr. Celf Blwyddyn 5 a 6 – 1. Gwenllian, Ysgol Y Fro, 2. – Dafydd Evans, Ysgol Mynydd-y-garreg, 3. – Ewan, Ysgol Y Fro. Ffotograffiaeth Bl. 1-6 – 1. Ewen, Ysgol Y Fro, 2. – Joseff, Ysgol Y Fro.

CERDD (agored)

Unawd Bl. 1 a 2 neu iau – Ifan Wyn Morris; Unawd Bl. 3 a 4 – Greta Ann Jones; Unawd Bl. 5 a 6 – Miriam Elsi Grim; Unawd Alaw Werin dan 19 – Cerys Knight; Unawd Bl. 7, 8 a 9 – Cerys Knight; Parti/Côr mudiadau lleol – Capel Penygraig; Emyn dros 50 – David Maybury; Her unawd – Gerwyn Rhys; Cenwch i’m yr Hen Ganiadau – David Maybury.

LLEFARU (agored)

Llefaru Bl. 1 a 2 neu iau – Ifan Wyn Morris; Llefaru Bl. 3 a 4 – Greta Ann Jones; Llefaru Bl. 5 a 6 – Betsi Mei Owen; Llefaru Bl. 7, 8 a 9 – Cerys Knight; Darllen darn o’r Ysgrythur ar y pryd, dros 19 – Maria Evans; Her Adroddiad – Maria Evans.

LLENYDDIAETH

Y Gadair – Terwyn Tomos, Llandudoch; Tlws yr Ifanc – Gruffudd ab Owain, Y Bala; Englyn – Nia Llewelyn, Llandsyul; Gorffen Limrig – Megan Richards, Aberaeron. Blwyddyn 7 – 9 llunio blog – 1. Hawys Davies, Ysgol Bro Teifi, 2. Erin Hana Rees, Ysgol Bro Teifi. Bl. 1-6 ysgolion cynradd lleol – 1. – Bertie Williams, 2. – Darcey Wray, 3. – Cydradd, Charlie Thorpe ac Isabel Hughes.

*          *          *