Hanes Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog
Cynhaliwyd eisteddfodau yn y mwyafrif o gapeli a gan nifer o gymdeithasau Cymraeg ar draws Cymru yn y gorffennol, ac roedd hyn yn wir hefyd am blwyf Llandyfaelog. I fyny i’r 1950au cynhaliwyd eisteddfodau yng Nghapeli Rama, Penygraig, Bancycapel, Philadelphia, yr hen gapel Methodist yn Llandyfaelog ac yn Festri Santes Ann, Cwmffrwd. Yn diwedddarach cynhaliwyd eisteddfod yn neuadd Llandyfaelog ond daeth yr ŵyl hon i ben yn tua 1963.
Serch hynny ail-gydiwyd yn yr arfer o gynnal eisteddfod yn y Neuadd yn 1974 wrth i’r ardal baratoi at wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i dref Caerfyrddin yn 1974. Eisteddfodau nos Wener oedd y rhain yn ystod y blynyddoedd cyntaf ac fe’u cynhaliwyd dan nawdd Pwyllgor Neuadd Llandyfaelog. Ymhen rhai blynyddoedd wrth iddi ddatblygu, fe’i cynhaliwyd ar ddydd Sadwrn.
Dyma oedd gyfnod Huw Evans, Glasdir, Croes-y-ceiliog fel ysgrifennydd yr Eisteddfod a gweithiodd yn ddiwyd dros yr eisteddfod o 1974 hyd ei farwolaeth annisgwyl yn Rhagfyr 1993. Fe’i olynwyd fel ysgrifennydd gan Huw John, Parc-y-drysi, Cwmffrwd a bu yntai yn ei swydd tan 2003 gyda chefnogaeth Gwyneth Evans, Cwmffrwd fel ysgrifennydd llenyddiaeth. Geraint Roberts, Pengwern, Cwmffrwd yw’r ysgrifennydd ers 2004 gan gael cymorth Rayan Evans, Brynaeron, Cwmffrwd hyd ei marwolaeth yn 2014 ac yna gan Kim Lloyd Jones, Fferm y Coed, Glan-y-fferi ers 2015.
Yn ystod 1995 sefydlwyd pwyllgor newydd ar gyfer yr Eisteddfod a oedd yn annibynnol o weithgareddau Pwyllgor Neuadd Llandyfaelog. Cynhaliwyd eisteddfod 1995 a phob un ers hynny o dan y drefn newydd hon.
Ym mis Ebrill 2005 cofrestrwyd Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog fel elusen a chytunwyd ar gyfansoddiad newydd gan bwyllgor yr Eisteddfod ar Ebrill 14eg, 2005. Mae copi o’r cyfansoddiad ar gael gan Ysgrifennydd yr Eisteddfod. Rhif yr elusen cofrestredig gan y Comisiwn Elusennau yw 1109388.
Yn unol â chyfansoddiad Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog prif amcanion yr Eisteddfod yw addysgu’r cyhoedd mewn diwylliant Cymraeg ac ychwanegu at chwaeth y cyhoedd yn y celfyddydau trwy’r dulliau canlynol :-
- Cynnal o dro i dro, fel bydd yn addas, Eisteddfod ym mhlwyf Llandyfaelog
- Cynnal cyfarfodydd a gweithgareddau mewn cysylltiad â’r Eisteddfod
- Creu diddordeb yn yr Eisteddfod drwy ddulliau addas fel bo’r angen.
Bu teulu Oaklands, Cwmffrwd yn gefnogol a hael iawn i’r Eisteddfod am nifer o flynyddoedd ac yn dilyn marwolaeth Dr. Ron a Mrs. Betty Rees cytunodd y plant i sefydlu Cronfa er cof am eu rhieni ac i gyfrannu gwobrau ariannol. Yn 2006 sefydlwyd Cronfa Goffa Dr. Ron a Mrs. Betty Rees, Oaklands mewn cydweithrediad â phlant y teulu a’r Comisiwn Elusennau. Mae eu cyfraniad yn ymddangos yn flynydol ar raglen yr Eisteddfod fel hyn, cyflwynir dwy ysgoloriaeth o Gronfa Goffa Dr. Ron a Mrs. Betty Rees, Oaklands, Cwmffrwd, sef £50 yr un i’r cystadleuydd gorau lleol dan 16 oed (a) yn yr adran gerdd a (b) yn yr adran lefaru.
Un o brif uchafbwyntiau Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog yw seremoni cadeirio’r bardd. Cyflwynwyd cadair am y tro cyntaf yn eisteddfod 1983 a’r enillydd cyntaf oedd Y Parch T Elfyn Jones, Drefach, Llanelli. Ystyrir ennill cadair Llandyfaelog fel clod arbennig iawn gan feirdd ar draws Cymru a bu sawl enillydd nodedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Enillwyd cadair 2002 gan Y Prifardd Mererid Hopwood o Langynnwr, Caerfyrddin a hynny ar ôl iddi gipio’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r cyffiniau yn 2001.
Enillwyd cadair Llandyfaelog yn 2005 gan Hilma Lloyd Edwards, Bontnewydd, Caernarfon ac aeth hi ymlaen i ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch yn 2008.
Efallai mai enillydd mwyaf anarferol cadair Eisteddfod Llandyfaelog oedd Les Barker, Bwlchgwyn, Wrecsam a gadeiriwyd yn 2015 am ei gywydd i’r ‘Tir Newydd’ ar y mesurau caeth. Ganed a maged Les ym Manceinion a symudodd i fyw i Gymru gan ddechrau dysgu’r Gymraeg a’r cynganeddion. Bu’n dysgu’r Gymraeg am tua deng mlynedd a’r cynganeddion am ryw wyth mlynedd cyn ennill ei gadair gyntaf yn Llandyfaelog. Roedd y llwyddiant hwn gan un a oedd wedi dysgu Cymraeg yn gamp nodedig iawn.
Dyma lun o Les Barker wedi cael ei gadeirio. Yn y llun mae’r beirniad y Prifardd Hywel Griffiths, enillydd Tlws yr Ifanc, Sioned Davies o Bencader ynghyd ag aelodau’r Orsedd.
Mae hanes eithaf diddorol i gadeiriau Eisteddfod Llandyfaelog hefyd. Cadeiriau bach a gyflwynwyd i’r beirdd buddugol o 1983 ymlaen a’r rhain o waith Brynmor Thomas, Llangynnwr. Ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf ac i fyny at 2003 fe luniwyd y cadeiriau mewn gweithdy ym Mynyddygarreg. Un o gadeiriau mwyaf arbennig ac unigryw a gyflwynwyd yn yr Eisteddfod oedd honno a luniwyd gan Alan Jones, Star Forge. Mae’r llun isod yn dangos Tudor Davies yn eistedd yn y gadair haearn hardd gydag Alan y gofaint yn y rhes gefn y tu ôl iddo.
Roedd cadair 2011 yn un nodedig hefyd. Er i’r gadair gael ei noddi gan David a Marjorie Thomas o dafarn Y Llew Coch, Llandyfaelog yr oedd y gadair ei hun yn ffrwyth cyd-weithrediad rhai o ffyddloniaid y dafarn. Fe ddarparwyd y pren derw gan Neville Jones, gwnaed y gwaith ymchwil am hanes Sant Maelog gan Douglas Davies a lluniwyd y gadair yn fedrus gan John Davies a David Sharpe. Mae’r llun isod yn dangos cadair Eisteddfod 2011 gyda David a Marjorie Thomas, Y Llew Coch ar y dde a Douglas Davies a Nevill Jones ar y chwith.
Cadair Y Llew Coch
Y mae haenau’r gymuned
yn ei graen yn asio’n gred;
un yw’r plwyf trwy’r gain a’r plân,
un ydyw ar bren llydan.
Trwy’r haf bu dwylo’r dafarn
yno’n dal ymhob un darn,
a Maelog i’r ymylon
yw oriau chwys breichiau hon.
O’r newydd, daw’r saernïaeth
ar ‘styllen y goeden gaeth,
i uno’r ŵyl a lleisiau’r iaith,
o fonyn yn gyfanwaith.
Geraint Roberts
Dyma restr o enillwyr cadair Eisteddfod Llandyfaelog ers y flwyddyn 1983.
Blwyddyn Bardd Buddugol Noddwr y Gadair
1983 T Elfyn Jones, Drefach, Llanelli
1984 Dwynwen Davies, Pontargothi
1985 Alun L Jones, Saron, Llandysul
1986 D M Hopkins, Brynaman
1987 Nanette Williams, Idole
1988 Emyr Humphreys Jones, Wrecsam
1989
1990 J Beynon Phillips, Brechfa
1991 J Beynon Phillips, Brechfa
1992 J Beynon Phillips, Brechfa
1993 Ruth Pritchard, Cynwyl Elfed
1994 T M Thomas, Llanwrda
1995 John Lewis Jones, Yr Wyddgrug
1996 J Beynon Phillips, Brechfa
1997 T M Thomas, Llanwrda
1998
1999 Roy Davies, Pembre Cadair Goffa Elfed Lewys
2000 J Beynon Phillips, Brechfa Ysgol Farddol Caerfyrddin i gofio Elfed
2001 Geraint Roberts, Cwmffrwd Huw ac Elonwy John, Cwmffrwd
2002 Mererid Hopwood, Llangynnwr Huw ac Elonwy John, Cwmffrwd
2003 Geraint Roberts, Cwmffrwd Cyngor Cymuned Llandyfaelog
2004 Mari Lisa, Caerfyrddin Cymdeithas Capel Penygraig
2005 Hilma Lloyd Edwards, Caernarfon Carmarthen Decorating Centre
2006 Aled Evans, Llangynnwr Ysgol Bro Myrddin
2007 Tudor Davies, Pontyberem Alan Jones, Star Forge
2008 Aled Evans, Llangynnwr Cwmni Gravells, Cydweli
2009 Heddwyn Jones, Pontiets Ysgol Farddol Caerfyrddin
2010 Geraint Morgan, Penlle’rgaer Evans Buildings, Cwmffrwd
2011 Aled Evans, Llangynnwr Llew Coch, Llandyfaelog
2012 J Beynon Phillips, Caerfyrddin Philip a Meril Davies, New Jersey
2013 Frank Olding, Y Fenni Albert a Brenda Rees, Croesyceiliog
2014 Peter Hughes Griffiths, Caerfyrddin Burns Pet Nutrition
2015 Les Barker, Wrecsam Cartref Gofal Castell Tywi
2016 Geraint Morgan, Penlle’rgaer Geraint Rees, Caeralaw
2017 Meirion Jones, Pentrecwrt Capel Tabor, Llansaint
2018 Grug Muse, Caerdydd Capel Tabor, Llansaint
2019 Gareth Williams, Llannon Teulu Fferm-y-Coed, Glan-y-fferi
2022 Terwyn Tomos Graham a Shan Rees a’r teulu, Llandyfaelog