Cadair Tabor 2017
Pan gaewyd Capel Tabor, Llansaint yn 2016 cafwyd y syniad o gyflwyno’r ddwy gadair a oedd wedi harddu’r sedd fawr am tua deg a thrigain o flynyddoedd i Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog. Derbyniwyd cynnig Bethan Gibbon a’r ymddiriedolwyr o gyflwyno’r cadeiriau fel gwobr i fardd y gadair yn yr eisteddfod yn llawen iawn.
Cyflwynwyd cadair Eisteddfod 2017 i aelodau’r pwyllgor mewn swper arbennig a gynhaliwyd yn Y Llew Coch, Llandyfaelog ar Hydref 23ain. Wrth dderbyn y gadair ar ran y pwyllgor lluniwyd yr englyn canlynol gan Geraint Roberts.
Cadair Tabor
Hen weddi sy’n gelfyddyd, – yn y graen
mae hen gred a’r pulpud,
clywn yr emyn bob munud
a’r Gair drwy’r gadair i gyd.
Yn eisteddfod flynyddol Llandyfaelog a gynhaliwyd ar Ragfyr 2il cyflwynwyd y gadair fel gwobr am ysgrifennu cerdd oddeutu 30 llinell ar y testun ‘Drws’. Y beirniad eleni oedd Aled Evans, Llangynnwr. Bu’n hael iawn ei ganmoliaeth o’r 16 cerdd a ddaeth i’r gystadleuaeth ac yn arbennig cerdd y bardd buddugol ac enillydd cadair Tabor, sef Meirion Jones o Bentrecwrt, Llandysul.
Dyma a ddywed Aled am gerdd Meirion:
‘Drws ein cenedl sydd gan y bardd hwn, drws gorthrwm, fu’n drwm gan drais, un a hoeliwyd â malais. Ar y darlleniad cyntaf mae hi’n gerdd genedlaetholgar sy’n ddigon nodweddiadol o’r canu prydferth o ddi-obaith fu’n boblogaidd gan ein beirdd ble brithir cerddi a geiriau megis pryder, craith a chadwyn. Ond mae yna fwy yn y gerdd hon. Mae hi’n athronyddol aeddfed. Yn y pennill olaf mae’r bardd yn ein hatgoffa,
Hanes hil sy’n y drws hwn,
â’n geiriau fe’i agorwn
a rhodio drwy yr adwy
o fyd mall heb ofid mwy.
Ein drws ni yw’r drws o’n hôl,
drws o dras deri oesol.’
Cadeiriwyd Meirion Jones mewn seremoni urddasol o flaen neuadd lawn o eisteddfodwyr. Wrth gyfarch Meirion, adroddodd Fflur Richards, un o aelodau ifancaf yr orsedd y pennill canlynol.
I gyfarch Meirion
Ti yw ein prifardd heno
dest at y drws a’i agor,
cei fynd nôl â chadair hardd
er cof am gapel Tabor.
Mae’r llun yn dangos Bardd y Gadair 2017, sef Meirion Jones, Pentrecwrt, Llandysul gyda’r beirinad Aled Evans ac aelodau’r orsedd. Pensaer gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin yw Meirion Jones a dyma a ddywed ef am gadair Tabor.
‘Er mai cadair sedd fawr mewn capel yw hon, o dderw, yn gadarn ac urddasol, ar yr un pryd hefyd mae’n gadair sydd yn rhan o draddodiad eisteddfodol y Cymry. Mae’n hen gadair ac eto’n cymeryd ei lle yn naturiol mewn tŷ modern. Fe’m llewnyd â balchder pan sylwais mai fy nghadair i oedd hon a fy mod yn mynd i gael mynd â hi adre. Rwy’n hynod ddiolchgar i swyddogion Capel Tabor am gyflwyno’r gadair i’r Eisteddfod ac erbyn hyn mae wedi cael ei gosod mewn lle amlwg yn yr ystafell fyw.’
Geraint Roberts,
Ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog