Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 2017.
Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 2il gyda’r cystadlu yn frwd ac yn niferus yn gyffredinol drwy’r dydd. Ystyrir hon yn un o’r eisteddfodau gorau erioed, yn enwedig yn yr adran leol. Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd – Fflur Wyn, Llundain; Llefaru – Jennifer Clarke, Gorseinon; Llên – Aled Evans, Llangynnwr; Celf – Gareth Morgan, Cwmffrwd.
Bu Geraint Rees, Idole yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol a Jonathan Morgan, Y Tymbl ar gyfer y cystadlaethau agored.
Llywyddion yr eisteddfod eleni oedd Mr. Roy Richards, Llandyfaelog yn y prynhawn a’r Athro Delme Bowen, Glan-y-fferi yn yr hwyr. Cafwyd anerchiad a chyfraniad gwerthfawr gan y ddau lywydd ill dau â chysylltiad agos iawn gyda bro’r eisteddfod a’i gweithgareddau.
Enillwyd Cadair yr Eisteddfod gan Meirion Jones, Pentrecwrt, Llandysul gyda chywydd ar y testun “Drws”. Roedd cystadleuaeth y gadair yn un safonol a niferus iawn o ran ymgeiswyr ac fe blesiwyd y beirniad yn fawr iawn. Yr oedd y gadair hardd yn rhoddedig gan Gapel Tabor Llansaint, sydd wedi cau bellach. Enillwyd Tlws yr Ifanc gan Elen Davies, Pencader. Roedd y tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan Huw John, Peniel.
Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Cari Gibbon, Cydweli am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf. Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees (cerddoriaeth a llefaru) i’r cystadleuydd gorau yn lleol o dan 16 oed i Luke Rees, Pontantwn. Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Llangynnwr a chyflwynwyd cwpan her am lwyfannu eitem gan fudiadau lleol i Glwb Ffermwyr Ifanc San Ishmael.
Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod. Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.
CERDD (lleol)
Unawd Bl. 1 a 2 – 1. Jack Howells Arnold, 2. Harri Jones, 3. Poppy Bryant-James; Unawd Bl. 3 a 4 – 1. Elliw Williams, 2. Erin Medi Gibbard, 3. Alice Mitchell; Unawd Bl. 5 a 6 – 1. Cari Gibbon, 2. Llywelyn Owen, 3. Harri Gibbon a Gwenan Morris (cydradd); Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd – 1. Lois Dafydd; Parti unsain dan 16 – 1. Ysgol Llangynnwr 3, 2. Adran Mynydd-y-garreg 1, Ysgol Llangynnwr 1; Unawd Offeryn Cerdd Bl. 7 – 11 – 1. Luke Rees, 2. Fflur Richards; Unawd Bl. 7 – 11 – 1. Luke Rees, 2. Iwan Thomas.
DAWNS
Dawns unigol dan 16 oed (lleol) – 1. Gwenan Morris
LLEFARU (lleol)
Llefaru Bl. 1 a 2 – 1. Harri Wyn Jones; Llefaru Bl. 3 a 4 – 1. Tomos Davies, 2. Lois Dafydd, 3. Cai Jones; Llefaru Bl. 5 a 6 – 1. Taliesin Thomas, 2. Betsan Jones, 3. Gwenan Morris; Llefaru Bl. 7 – 11 – 1. Luke Rees.
CELF A THECHNOLEG (lleol)
Celf Blwyddyn 1 a 2 – 1. Gwenllian Jones, Ysgol y Fro, 2 – Hannah Green,
Ysgol Mynydd-y-garreg, 3 – Sebastian Gibbon, Ysgol Mynydd-y-garreg; Celf Blwyddyn 3 a 4 – 1. Blue Evans, Ysgol Llangynnwr, 2. Lois Alaw Dafydd, Ysgol Llangynnwr, 3. Hannah Howells, Ysgol Mynydd-y-garreg; Celf Blwyddyn 5 a 6 – 1. Samuel Ashton, Ysgol Llangynnwr, 2. Llywelyn Owen, Ysgol Mynydd-y-garreg, 3. Sophia Williams, Ysgol Llangynnwr; Ffotograffiaeth Blwyddyn 1-6 – 1. Coral Sylvan, Ysgol y Fro, 2. Cerys Johnson, Ysgol Llangynnwr, 3. Ceni Trigwell Jones, Ysgol y Fro; Technoleg Gwybodaeth Blwyddyn 1-6 – 1. Marged Elias, Ysgol y Fro, 2. Poppy Mackenzie-Jones, Ysgol y Fro, 3. Coral Sylvan.
CERDD (agored)
Unawd Bl. 1 a 2 neu iau – Megan Davies; Unawd Bl. 3 a 4 – Bella; Unawd Bl. 5 a 6 – Seren Weston; Unawd Bl. 7, 8 a 9 – Eva Angharad Owen; Unawd Bl. 10 ac o dan 19 oed – Elin Fflur Jones; Unawd Alaw Werin dan 19 – Elin Fflur Jones; Unawd offerynnol dan 19 – Daniel O’Callaghan; Unawd sioe gerdd dan 30 oed – Elin fflur Jones; Unawd dan 30 – Owain Rowlands; Emyn dan 50 – Elin Fflur Jones; Emyn dros 50 – Geraint Rees; Cenwch i’m yr Hen Ganiadau – John Davies; Her Unawd dros 17 – John Davies; Deuawd – Jennifer a John; Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru – Côr Tonic, Caerfyrddin.
LLEFARU (agored)
Llefaru Bl. 1 a 2 neu iau – Megan Davies; Llefaru Bl. 3 a 4 – Fflur Morgan; Llefaru Bl. 5 a 6 – Seren Weston; Llefaru Bl. 10 ac o dan 19 oed – Elin Fflur Jones; Darllen darn o’r Ysgrythur ar y pryd, dros 19 – Maria Evans a Llinos Jones (cydradd); Her adroddiad dan 30 – Siôn Jenkins; Her Adroddiad – Siôn Jenkins.
LLENYDDIAETH
Y Gadair – Meirion Jones, Pentrecwrt, Llandysul; Tlws yr Ifanc – Elen Davies, Pencader; Englyn – John Ffrancon Griffith, Abergele; Gorffen Limrig – Iwan Thomas, Ciliau Aeron; Blwyddyn 7-9 llunio blog – 1. Briall Dyfri, Ysgol Bro Myrddin, 2.- Martha Gwenllian Jones, Ysgol Bro Myrddin, 3. Megan Fflur Richards, Ysgol Bro Myrddin.