Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 2018.
Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 1af gyda’r cystadlu yn frwd ac yn niferus yn gyffredinol drwy’r dydd. Ystyrir hon yn un o’r eisteddfodau gorau erioed, yn enwedig yn yr adran leol. Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd – Rhiannon Lewis, Cwmann; Llefaru a Llên – Y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Talybont; Celf – Gareth Morgan, Cwmffrwd.
Bu Geraint Rees, Idole yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol a Jonathan Morgan, Y Tymbl ar gyfer y cystadlaethau agored.
Llywyddion yr eisteddfod eleni oedd Emyr Wynne Jones, Cwmffrwd yn y prynhawn a Gwen Redvers Jones, Cwmffrwd yn yr hwyr. Cafwyd anerchiad a chyfraniad gwerthfawr gan y ddau lywydd, ill dau â chysylltiad agos iawn gyda bro’r eisteddfod a’i gweithgareddau.
Enillwyd Cadair yr Eisteddfod gan Elan Grug Muse o Gaerdydd gyda cherdd rydd ar y testun “Gorwel”. Roedd cystadleuaeth y gadair yn un safonol a niferus iawn o ran ymgeiswyr ac fe blesiwyd y beirniad yn fawr iawn. Yr oedd y gadair hardd yn rhoddedig gan Gapel Tabor Llansaint, sydd wedi cau bellach. Enillwyd Tlws yr Ifanc gan Carwen Richards, Ffarmers, Llanwrda. Roedd y tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan Huw John, Peniel.
Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Lois Dafydd, Llangynnwr am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf. Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees (cerddoriaeth a llefaru) i’r cystadleuydd gorau yn lleol o dan 16 oed i Llywelyn Owen, Mynydd-y-garreg (cerddoriaeth) ac i Betsan Jones, Cydweli (llefaru). Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Mynydd-y-garreg a chyflwynwyd cwpan her am lwyfannu eitem gan fudiadau lleol i gapel Penygraig.
Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod. Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.
CERDD (lleol)
Unawd Bl. 1 a 2 – 1. Lewis Owen, 2. Llian Jones, 3. Alaw Evans; Unawd Bl. 3 a 4 – 1. Elliw Williams, 2. Harri Jones, 3. Jac Howells; Unawd Bl. 5 a 6 – 1. Lois Dafydd, 2. Cari Gibbon, 3. Llywelyn Owen; Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd – 1. Llywelyn Owen; Parti unsain dan 16 – 1. Ysgol y Fro, 2. Blwyddyn 5 Llangynnwr a Ysgol Glan-y-fferi (cydradd), 3. Bl. 1 Llangynnwr a Bl. 6 Llangynnwr (cydradd).
LLEFARU (lleol)
Llefaru Bl. 1 a 2 – 1. Ela Wyn Gibbard; Llefaru Bl. 3 a 4 – 1. Harri Jones, 2. Gruffydd Roberts, 3. Lisa Gibbard; Llefaru Bl. 5 a 6 – 1. Betsan Jones, 2. Lois Dafydd; Grŵp llefaru dan 16 – Adran y Mynydd.
CELF A THECHNOLEG (lleol)
Celf Blwyddyn 1 a 2 – 1. Ren Davies, Ysgol Mynydd-y-Garreg, 2 – Tyler Richards, Ysgol Glan-y-fferi, 3 – Paige Thomas, Ysgol Glan-y-fferi; Celf Blwyddyn 3 a 4 – 1. Griff Beynon, Ysgol Glan-y-fferi, 2. Ann Robles, Ysgol Mynydd-y-garreg, 3. Hannah Green, Ysgol Mynydd-y-garreg; Celf Blwyddyn 5 a 6 – 1. Poppy Millross, Ysgol Glan-y-fferi, 2. Erin Gibbon, Ysgol Mynydd-y-garreg, 3. Llew Owen, Ysgol Mynydd-y-garreg;
CERDD (agored)
Unawd Bl. 1 a 2 neu iau – Teifi Evans; Unawd Bl. 3 a 4 – Cerys Knight; Unawd Bl. 5 a 6 – Gwawr Owen; Unawd Bl. 7, 8 a 9 – Seren Weston; Unawd Bl. 10 ac o dan 19 oed – Celt Llywelyn Jones; Unawd Alaw Werin dan 19 – Seren Weston; Unawd offerynnol dan 19 – Seren Weston; Unawd sioe gerdd dan 30 oed – Lili Mai; Unawd dan 30 – Celt Llywelyn Jones; Emyn dan 50 – Betsan Lewis a Seren Weston (cydradd); Emyn dros 50 – Geraint Rees; Cenwch i’m yr Hen Ganiadau – Gerwyn Rhys; Her Unawd – David Mayberry.
LLEFARU (agored)
Llefaru Bl. 1 a 2 neu iau – Awel Lewis; Llefaru Bl. 3 a 4 – Cerys Knight; Llefaru Bl. 7, 8 a 9 – Seren Weston; Darllen darn o’r Ysgrythur ar y pryd, dros 19 – Maria Evans; Her Adroddiad – Maria Evans.
LLENYDDIAETH
Y Gadair – Elan Grug Muse, Caerdydd; Tlws yr Ifanc – Carwen Richards, Ffarmers, Llanwrda; Englyn – Rachel James, Boncath; Gorffen Limrig – Glyn Jones, Dinbych; Blwyddyn 7-9 llunio blog – 1. Andreas Richards, Ysgol Bro Myrddin, 2. Trystan Tyler, Ysgol Bro Myrddin, 3. Gwenllian Miles Jones, Ysgol Bro Myrddin.