Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 2019
Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 7fed. Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd – Davinia Harries Davies, Bancffosfelen; Llefaru – Elin Williams, Cwmann: Llên – Y Prifardd Idris Reynolds, Brynhoffnant; Celf – Gareth Morgan, Cwmffrwd.
Bu Geraint Rees, Idole yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol a Jonathan Morgan, Y Tymbl ar gyfer y cystadlaethau agored.
Llywyddion yr eisteddfod eleni oedd Janet Knott, Banc-y-capel yn y prynhawn a Ronald Thomas, Llandyfaelog yn yr hwyr, ill dau â chysylltiad agos iawn gyda bro’r eisteddfod ac yn weithgar iawn ynddi.
Enillwyd cadair yr Eisteddfod gan Gareth Williams, Llannon, Llanelli gyda cherdd ar y testun “Tonnau”. Yr oedd y gadair hardd yn rhoddedig gan Mr Ron Jones a Mrs Kim Lloyd Jones a’r teulu, Fferm-y-coed, Glan-y-fferi. Enillwyd Tlws yr Ifanc gan Ianto Jones, Cribyn, Llanbedr Pont Steffan. Roedd y tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan Huw John, Peniel.
Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Erin Gibbon, Mynydd-y-garreg am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf. Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees i’r cystadleuydd gorau yn lleol o dan 16 oed i Erin Gibbon, Mynydd-y-garreg (cerddoriaeth) ac i Lois Dafydd, Llangynnwr a Gruffudd Roberts, Cydweli (llefaru). Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Llangynnwr a chyflwynwyd cwpan her am lwyfannu eitem gan fudiadau lleol i gapel Penygraig.
Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod. Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.
CERDD (lleol)
Unawd Bl. 1 a 2 – 1. Llian Jones, 2. Paige Thomas, 3. Beca Eluned; Unawd Bl. 3 a 4 – 1. Harri Jones, 2. Peyton Hayhurst, 3. Poppy James; Unawd Bl. 5 a 6 – 1. Erin Gibbon, 2. Alysha Thomas, 3. Alys Mitchell; Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd – 1. Lois Dafydd, 2. Haf Jones; Parti unsain dan 16 – 1. Ysgol y Fro, 2. Glan-y-fferi, 3. Llangynnwr 1 a 2 (cydradd); Unawd Bl. 7-11 – 1. Llywelyn Owen; Unawd offeryn cerdd – 1. Llywelyn Owen.
LLEFARU (lleol)
Llefaru Bl. 1 a 2 – 1. Ioan Jones, 2. Gwenllian Jones, 3. Gwenno Roberts; Llefaru Bl. 3 a 4 – 1. Gruffudd Roberts, 2. Harri Lloyd, 3. Gwenllian Jones; Llefaru Bl. 5 a 6 – 1. Lois Dafydd, 2. Alys Mitchell, 3. Lisa Gibbard.
CELF A THECHNOLEG (lleol)
Celf dan 5 oed – 1. Caian Morris, Cywion Bach, 2. Bobby Williams-Holder, Ysgol Glan-y-fferi, 3. Louie Reynolds, Cywion Bach. Celf Blwyddyn 1 a 2 – 1. Haulwen Wood, Ysgol Gwenllian, 2. – Poppy Lee, Ysgol y Fro, 3. Gruffydd Knowles, Ysgol y Fro. Celf Blwyddyn 3 a 4 – 1. Zane Afzal-Owen, Ysgol Glan-y-fferi, 2. – Honey Davis, Ysgol Llangynnwr, 3. – Griff Beynon, Ysgol Glan-y-fferi. Celf Blwyddyn 5 a 6 – 1. Evie Holland, Ysgol Gwenllian, 2. – Seren Wood, Ysgol Gwenllian, 3. – Arwen Kirton-Hutchins, Ysgol Glan-y-Fferi. Technoleg Gwybodaeth Bl. 1-6 – 1. Kian Williams, Ysgol Llangynnwr, 2. – Cerys Johnson, Ysgol Llangynnwr, 3. – Grace Frazer Jones, Ysgol Llangynnwr.
CERDD (agored)
Unawd Bl. 1 a 2 neu iau – Iwan Thomas; Unawd Bl. 3 a 4 – Cadi James; Unawd Bl. 5 a 6 – Cari Seymour; Unaw Unawd Alaw Werin dan 19 – Elin Fflur Jones; Unawd Bl. 7, 8 a 9 – Erin Morgan; Unawd Bl. 10 ac o dan 19 oed – Martha Harries; Unawd sioe gerdd dan 30 oed – Martha Harries; Unawd dan 30 – Sioned Howells; Emyn dan 50 – Elin Fflur Jones; Parti/Côr mudiadau lleol – Capel Penygraig; Emyn dros 50 – Geraint Rees; Her unawd – Sioned Howells; Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru – Côr Hafodwenog; Cenwch i’m yr Hen Ganiadau – Elin Fflur Jones.
LLEFARU (agored)
Llefaru Bl. 1 a 2 neu iau – Iwan Thomas; Llefaru Bl. 3 a 4 – Taliesin Bryant; Llefaru Bl. 7, 8 a 9 – Seren Weston; Darllen darn o’r Ysgrythur ar y pryd, dros 19 – Sioned Howells; Her adroddiad dan 30oed – Sioned Howells; Her Adroddiad – Sioned Howells.
LLENYDDIAETH
Y Gadair – Gareth Williams, Llanon, Llanelli; Tlws yr Ifanc – Ianto Jones, Cribyn, Llanbedr Pont Steffan. Englyn – Iwan Rhys a Manon Awst, Caernarfon; Gorffen Limrig – Olga Gravell, Pontiets; Blwyddyn 7-9 llunio blog – 1. Mari Wynne, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin, 2. Leia Vobe, Ysgol Bro Teifi, Llandysul, 3. Saoirse Downey, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe. Blwyddyn 10-11 llunio blog – 1. Rebecca Rees, Ysgol Bro Teifi, Llandysul, 2. Cerys Evans, Ysgol Bro Teifi, Llandysul, 3. Mared Evans, Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Bl. 1-6 ysgolion cynradd lleol – 1. – Carrie Davies, Ysgol Llangynnwr, 2. – Grace Frazer Jones, Ysgol Llangynnwr, 3. – Cydradd, Macsen Davies, Ysgol Llangynnwr, Mali Griffiths, Ysgol Llangynnwr ac Emilie Jones, Ysgol Llangynnwr