Eisteddfod 2025

Dydd Sadwrn 8fed Chwefror

Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 2025
Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Chwefror 8fed.

Y beirniaid eleni oedd :-

Cerdd – D. Huw Rees, Abertawe;

Llefaru – Ivoreen Williams, Capel Hendre;

Llên – Gwennan Evans, Caerdydd;

Celf a Thaechnoleg – Gareth Morgan, Cwmffrwd;

Dawns – Huw John, Peniel.
Bu Jonathan Morgan, Y Tymbl (piano) a Kim Lloyd Jones (telyn) yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol ac agored.

Llywydd prynhawn yr eisteddfod eleni oedd y diweddar Geraint Rees a thalwyd teyrnged iddo gan Gary Anderson gan nodi ei gyfraniad i’r eisteddfod dros y blynyddoedd.

Llywydd y nos oedd Huw John, Peniel un
a fu’n gefnogol i’w fro ac i’r Eisteddfod dros nifer fawr iawn o flynyddoedd.


Enillwyd Cadair yr Eisteddfod gan Meirion Jones, Pentrecwrt, Llandysul gyda chywydd ar y testun “Perthyn”. Roedd y gadair hardd yn rhoddedig gan Yvonne Lewis, Craigfryn a theulu Moelfre Uchaf.
Enillwyd Tlws yr Ifanc gan Ifan Gruff, Deganwy, Bae Colwyn a chyflwynwyd y fedal a’r wobr ariannol gan Huw John, Peniel.


Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Gwenllian Jones, Ysgol Gwenllian am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf. Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees i’r cystadleuydd gorau yn lleol o dan 16 oed i Morus Jones, Ysgol Llangynnwr (cerddoriaeth) ac i Enfys Jones, Ysgol Llangynnwr (llefaru). Cyflwynwyd Tarian Goffa Geraint Rees am y tro
cyntaf eleni, sef y darian her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Llangynnwr.

Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod.


Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.
CERDD (lleol)
Unawd Bl. 1 a 2 – 1. Greta Wyn, 2. Ilan-Rhun Phillips, 3. Medi Holding; Unawd Derbyn ac iau – 1. Havanna Havard, 2. Ela Millard, 3. Gwenllian Turner; Unawd Bl. 3 a 4 – 1. Bronwen Symmons, 2. Beca Davies, 3. Alaw Evans; Unawd Bl. 5 a 6 – 1. Gwenllian Jones, 2. Enfys Jones, 3. Cydradd, Isabel Hughes ac Alys Gibbard;
Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd – 1. Morus Jones, 2. Isabel Hughes, 3. Alaw Evans; Unawd cerdd dant Bl. 6 ac iau – 1. Gwenllian Jones, 2. Bronwen Symmons, 3. Cydradd, Greta Wyn ac Ilan-Rhun Phillips;
Unawd alaw werin Bl. 6 ac iau – 1. Enfys Jones, 2. Gwenllian Jones, 3. Cydradd, Ilan-Rhun Phillips ac Alaw Evans; Unawd Goffa Geraint Rees, emyn Bl. 6 ac iau – Gwenllian Jones, 2. Ilan-Rhun Phillips, 3. Cydradd, Isabel Hughes a Greta Wyn; Parti unsain dan 16 – 1. Bl. 5 a 6 Ysgol Llangynnwr, 2. Ysgol Gwenllian, 3. Cydradd, Ysgol Llangynnwr 1 a 2, Ysgol Llangynnwr 3 a 4; Deuawd Bl. 6 ac iau – 1. Gwenllian Jones a Bronwen Symmons, 2. Anwen Jones a Greta Jones; Unawd Bl. 7-11 – 1. Elan Jones; Unawd offeryn cerdd Bl. 7 ac o dan 19 oed – 1. Cydradd, Thomas Flannigan a Mali Edwards.

DAWNS (lleol)
Grŵp dawns stepio/gwerin – 1. Cŵl Dŵds Glyndŵr, 2. Ysgol Llangynnwr; Grŵp dawnsio disgo/hiphop/stryd, 1. Gals Gwenllian.


LLEFARU (lleol)
Llefaru Bl. 1 a 2 – 1. Ilan-Rhun Phillips, 2. Greta Wyn, 3. Cydradd, Medi Holding a Sianco Davies; Llefaru Derbyn ac iau – 1. Ela Millard, 2. Havanna Havard. Llefaru Bl. 3 a 4 – 1. Beca Davies, 2. Alaw Evans, 3. Cydradd, Tomos Wyn Cooper a Anna Williams; Llefaru Bl. 5 a 6 – 1. Enfys Jones, 2. Alys Evans, 3. Cydradd, Isabel Hughes ac Alys Williams.


CELF A THECHNOLEG (lleol)

Celf dosbarth derbyn a iau – 1. Kaspar Randall, Ysgol Glanyfferi, Cauis Thomas, Ysgol Glanyfferi, 3. Miriam Haf Wyn, Ysgol Llangynnwr; Celf Blwyddyn 1 a 2 – 1. Ilan-Rhun Phillips, Ysgol Llangynnwr, 2. Ilan-Rhun Phillips, Ysgol Llangynnwr, 3. Isabelle Lines-Zechmann, Ysgol Mynydd-y-garreg; Celf Blwyddyn 3 a 4 – 1. Brodie Evans, Ysgol Glanyfferi, 2. Poppy Corbett, Ysgol Glanyfferi, 3. Manon Tremlett, Ysgol Mynydd-ygarreg; Celf Blwyddyn 5 a 6 – 1. Xavier Thomas, Ysgol Glanyfferi, 2. Lili, Ysgol Llangynnwr, 3. Steffan Green, Ysgol Mynydd-y-garreg; Ffotograffiaeth Bl. 1-6 – 1. Ilan-Rhun Phillips, Ysgol Llangynnwr, 2. Ilan-Rhun Phillips, Ysgol Llangynnwr. Technoleg Gwybodaeth Bl. 1-6 – 1. Isabel Hughes, Ysgol Llangynnwr,

CERDD (agored)
Unawd Bl. 1 a 2 neu iau – Ifan Wyn Morris; Unawd Bl. 3 a 4 – Heti Glyn Thomas; Unawd Bl. 5 a 6 – Greta Jones; Unawd cerdd dant Bl. 6 ac iau – Greta Jones; Unawd alaw werin Bl. 6 ac iau – Ifan Wyn Morris;
Unawd emyn Bl. 6 ac iau – Gwern Bowen; Unawd Bl. 7 – 9 – Iwan Thomas; Unawd cerdd dant Bl. 7 ac o dan19 oed – Iwan Thomas; Unawd emyn Bl. 7 ac o dan 19 oed – Iwan Thomas; Unawd alaw werin Bl. 7 ac o dan 19 – Cydradd, Iwan Thomas ac Ioan Anderson; Unawd piano/offerynnol dan 19 – Mali Edwards;
Parti/côr mudiadau lleol – Eglwys Sant Maelog; Cystadleuaeth Gorawl Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – Only Mynydd Aloud; Unawd goffa Geraint Rees emyn agored – David Mayberry; Her unawd – David Mayberry; Cenwch i’m yr Hen Ganiadau – David Mayberry.


LLEFARU (agored)
Llefaru Bl. 1 a 2 neu iau – Martha Evans; Llefaru Bl. 3 a 4 – Greta Evans; Llefaru Bl. 5 a 6 – Alis Glyn Thomas;
Llefaru Bl. 7, 8 a 9 – Cydradd, Iwan Thomas a Gwion Bowen; Her adroddiad dan 30 oed – Gwion Bowen;
Adroddiad/llefaru digri agored – Gwion Bowen; Darllen darn o’r Ysgrythur ar y pryd, dros 19 – Angharad Wyn.

LLENYDDIAETH
Y Gadair – Meirion Jones, Pentrecwrt, Llandysul; Tlws yr Ifanc – Ifan Gruff, Deganwy, Bae Colwyn; Englyn – Siw Harston, Staines, Middlesex; Gorffen Limrig – Delyth Wynne Rees, Machynlleth; Blwyddyn 10 ac o dan 19 oed, Araith ar bwnc llosg – Anna Jones, Llanarthne; Blwyddyn 7 – 9, erthygl papur bro – Owain Rhys Jones, Llangollen; Bl. 1-6 ysgolion cynradd lleol – 1. Greta Wyn, Ysgol Llangynnwr, 2. Ilan-Rhun Phillips, Ysgol Llangynnwr