Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 2023
Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 2il. Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd – Joy Cornock Thomas, Tal-y-llychau; Llefaru a Llên – Y Prifardd Aneirin Karadog, Pontybererm; Celf – Gareth Morgan, Cwmffrwd.
Bu Geraint Rees, Idole a Jonathan Morgan, Y Tymbl yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol gyda Jonathan ar gyfer y cystadlaethau agored.
Llywydd prynhawn yr eisteddfod eleni oedd Menna James, Cwmffrwd a’r llywyddion ar gyfer y nos oedd Owen a Lynda Jones, Llygad yr Efail, y tri ohonynt yn gefnogol i’w bro ac i’r Eisteddfod dros nifer fawr iawn o flynyddoedd.
Enillwyd Cadair yr Eisteddfod gan Eluned Mai Giles, Cae’r Seiri, Caerfyrddin gyda cherdd ar y testun “Deffro”. Yr oedd y gadair hardd yn rhoddedig gan Eirlys Thomas, Gellionnen a theulu Gelli-ddu er cof am Bryan. Enillwyd Tlws yr Ifanc gan Tesni Peers, Rhosllannerchrugog, Wrecsam a chyflwynwyd y fedal a’r wobr ariannol gan Huw John, Peniel.
Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Glesni Roberts, Ysgol Gwenllian am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf. Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees i’r cystadleuydd gorau yn lleol o dan 16 oed i Gwenllian Jones, Ysgol Gwenllian (cerddoriaeth) ac i Tomos Morgan, Ysgol Bro Myrddin (llefaru). Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Llangynnwr.
Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod. Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.
CERDD (lleol)
Unawd Bl. 1 a 2 – 1. Glesni Roberts, 2. Greta Wyn, 3. Cydradd, Hafanna Bennett Havard ac Anna Williams; Unawd Bl. 3 a 4 – 1. Gwenllian Jones, 2. Alys Evans, 3. Alaw Evans; Unawd Bl. 5 a 6 – 1. Beca Morris, 2. Ioan Jones, 3. Isabel Hughes; Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd – 1. Cadi Morgans, 2. Beca Morris, 3. Gruff Williams; Parti unsain dan 16 – 1. Ysgol Gwenllian (Hŷn), 2. Ysgol Llangynnwr (Hŷn), 3. Ysgol Llangynnwr (Iau); Deuawd Bl. 6 ac iau – 1. Enfys ac Isabel, 2. Aneirin a Greta; Unawd Bl. 7-11 – 1. Elan Jones; Unawd offeryn cerdd Bl. 7-11 – 1. Tomos Morgan.
LLEFARU (lleol)
Llefaru Bl. 1 a 2 – 1. Glesni Roberts, 2. Ilan-Rhun Phillips, 3. Cydradd, Hafanna Bennett Havard a Ela Millard; Llefaru Bl. 3 a 4 – 1. Alys Evans, 2. Tomos Wyn Cooper, 3. Cadi Morgan; Llefaru Bl. 5 a 6 – 1. Gwenno Roberts, 2. Caleb Jones, 3. Ioan Jones. Llefaru Bl. 7-11 – 1. Tomos Morgan.
CELF A THECHNOLEG (lleol)
Celf dan 5 oed – 1. William Davies, Ysgol Llangynnwr, 2. Gracie Davies, Ysgol Llangynnwr, 3. Clara McGee, Ysgol y Fro. Celf Blwyddyn 1 a 2 – 1. Ilan-Rhun Phillips, Ysgol Llangynnwr, 2. Finn McGee, Ysgol y Fro, 3. Zieorah Onoh, Ysgol Mynydd-y-garreg. Celf Blwyddyn 3 a 4 – 1. Oliver Rogan, Ysgol Glanyfferi, 2. Arya Lloyd, Ysgol Llangynnwr, 3. Xavier Thomas, Ysgol Glanyfferi. Celf Blwyddyn 5 a 6 – 1. Gwenno Lloyd, Ysgol y Fro, 2. Poppy Lee, Ysgol y Fro, 3. Zyian Onoh, Ysgol Mynydd-y-garreg. Ffotograffiaeth Bl. 1-6 – 1. Greta Wyn, Ysgol Llangynnwr, 2. Greta Wyn, Ysgol Llangynnwr. Technoleg Gwybodaeth Bl. 1-6 – 1. Morgan Harry, Ysgol Llangynnwr, 2. Brychan Thomas, Ysgol Llangynnwr, 3. Hollie Davies, Ysgol Llangynnwr.
CERDD (agored)
Unawd Bl. 1 a 2 neu iau – Beca Llwyd; Unawd Bl. 3 a 4 – Greta Ann Jones; Unawd Bl. 5 a 6 – Gwenno Roberts; Unawd Alaw Werin dan 19 – Awel Grug Lewis; Unawd Bl. 7, 8 a 9 – Awel Grug Lewis; Unawd piano/offerynnol dan 19 – Awel Grug Lewis; Unawd sioe gerdd dan 30 oed – Gwenllian Jones; Emyn dros 50 oed – Robert Jenkins; Her unawd – Gwyn Morris; Parti / Côr – Seingar; Deuawd – Robert Jenkins a Gwyn Morris; Cenwch i’m yr Hen Ganiadau – Gwyn Morris.
LLEFARU (agored)
Llefaru Bl. 1 a 2 neu iau – Tryfan Samuel Phillips; Llefaru Bl. 3 a 4 – Greta Ann Jones; Llefaru Bl. 5 a 6 – Gwenno Roberts; Llefaru Bl. 7, 8 a 9 – Awel Grug Lewis; Darllen darn o’r Ysgrythur ar y pryd, dros 19 – Maria Evans; Her Adroddiad – Maria Evans.
LLENYDDIAETH
Y Gadair – Eluned Mai Giles, Caerfyrddin; Tlws yr Ifanc – Tesni Peers, Rhosllannerchrugog; Englyn – Elen Edwards, Caernarfon; Gorffen Limrig – Alan Iwi, Didcot, Rhydychen. Blwyddyn 10 – 11 llunio blog – 1. Lois Thomas, Ysgol Bro Teifi, 2. 1. Lois Edmonds, Ysgol Bro Teifi, 3. Sophie Reid, Ysgol Bro Teifi. Bl. 1-6 ysgolion cynradd lleol – Bl. 4, 1. Farah Bowen, Ysgol Llangynnwr, 2. Tomos Moses, Ysgol Llangynnwr, 3. Mila Williams, Ysgol Llangynnwr. Bl. 1, 1. Florence, Ysgol Llangynnwr, 2. Amber, Ysgol Llangynnwr, 3. Cydradd – Spencer, Ysgol Llangynnwr a Greta, Ysgol Llangynnwr.
* * *
Llun 11 Bardd y Gadair 2023
Mae’r llun yn dangos Bardd y Gadair 2023, sef Eluned Mai Giles, Caerfyrddin a’r beirniad llên y Prifardd Aneirin Karadog, gydag aelodau’r Orsedd.
Lluniau eraill
Rhai o enillwyr yr adran leol yn yr eisteddfod.
Trefn mewn lluniau – o’r chwith i’r dde
Llun 1
Unawd Bl. 1 a 2 – 3. Cydradd Hafanna Bennett Havard ac Anna Williams, 2. Greta Wyn, 1. Glesni Roberts
Llun 2
Llefaru Bl. 1 a 2 – 1. Glesni Roberts, 2. Ilan-Rhun Phillips 3. Cydradd, Hafanna Bennett Havard ac Ela Millard
Llun 3
Unawd Bl. 3 a 4 – 1. Gwenllian Francis Jones, 2. Alys Evans a 3. Alaw Evans
Llun 4
Llefaru Bl. 3 a 4 – 1. Alys Evans, 2. Tomos Wyn Cooper, 3. Cadi Morgans
Llun 5
Unawd Bl. 5 a 6 – 1. Beca Morris, 2. Ioan Jones, 3. Isabel Hughes;
Llun 6
Llefaru Bl. 5 a 6 – 3. Ioan Jones, 2. Caleb Jones, 1. Gwenno Roberts
Llun 7
Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd – 1. Cadi Morgan, 2. Beca Morris, 3. Gruff
Williams
Llun 8
Deuawd Bl. 6 ac iau – 1. Enfys ac Isabel
Llun 9
Cynrychiolwyr Ysgol Llangynnwr yn derbyn y cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau oddi wrth Menna James, llywydd y prynhawn.
Llun 10
Tomos Morgan yn derbyn Ysgoloriaeth Dr. Ron a Mrs. Betty Rees i’r cystadleuydd gorau yn lleol o dan 16 oed am lefaru wrth Menna James, llywydd y prynhawn
Llun 12
Llywyddion yr hwyr, Owen a Lynda Jones, Llygad yr Efail












